Mae 2012 yn addo bod yn flwyddyn anhygoel i drefnwyr Pesda Roc. Maent newydd ennill gwobr RAP C2 Radio Cymru am ddigwyddiad byw y flwyddyn ac maent yn awr yn edrych ymlaen at Pesda Roc 2012 a gynhelir ym mis Awst. Yn ogystal â’r ŵyl honno, mae nifer o nosweithiau eraill yn cael eu trefnu ym Methesda.
Ar 2 Mehefin bydd Neuadd Ogwen yn croesawu Edward H. Dafis. Mae’r grŵp wedi ail-ffurfio yn ddiweddar dan yr enw H a’r Band. Byddant yn perfformio caneuon newydd yn ogystal â’r clasuron. Dyma un o fandiau mwyaf poblogaidd y sin roc Gymraeg erioed ac nid oes unrhyw syndod felly bod llawer o fwrlwm ynghylch y gig hwn. Bydd pryd o fwyd yn cael ei baratoi ar y noson gan Gaffi Coed-y-Brenin. Cofiwch gael eich tocyn mewn da bryd o Siop Kath, Bethesda am £10.
I gyd-fynd â Sioe Ogwen, ar 9 Mehefin, mae Pesda Roc wedi cyd-weithio gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Ogwen i greu gig gyda’r nos. Bydd Bryn Fôn a’r Band ac Y Bandana yn Neuadd Ogwen am 8.00pm, ar ôl y Sioe. Y gobaith yw y bydd hyn yn dechrau traddodiad blynyddol i noson y Sioe ac yn rhan o ffurfio perthynas gydweithredol newydd rhwng Ffermwyr Ifanc Dyffryn Ogwen a Pesda Roc.
Mae Pesda Roc hefyd yn trefnu nosweithiau ar gyfer cynulleidfa ifancach. Ar 7 Gorffennaf bydd Race Horses yn Neuadd Ogwen i ddechrau’r gyfres honno o gigs. Sefydlwyd pwyllgor ifanc Pesda Roc yn Ysgol Dyffryn Ogwen a byddant yn chwarae rhan flaenllaw yn y trefniadau. Mae Pesda Roc wedi bod yn cynnig Cwrs Technoleg Cerdd yn Neuadd Ogwen dan arweiniad Aled Huws (Cowbois Rhos Botwnnog). Mae’r rhai sydd wedi bod yn mynd i’r gweithdai hyn wedi dysgu pob math o bethau am y sîn roc Gymraeg, o sut i greu gigs i sut i recordio caneuon. Hoffai criw Pesda Roc ddiolch i bawb am yr holl gefnogaeth ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn y nosweithiau hyn.













