Mae Helfa Gelf, Digwyddiad Stiwdios Agored Mwyaf Gogledd Cymru, yn eich gwahodd i ymweld ag artistiaid wrth eu gwaith. Dyma gyfle unigryw i ymwelwyr gael blas ar y byd cyfrin hwn ac i sgwrsio â’r artistiaid a’r crefftwyr am eu gwaith creadigol a’u stiwdios! Mae’r stiwdios i’w canfod ym mhob math o leoliadau, o siediau i orielau, ac maen nhw mor ysbrydoledig bob tamaid a’r artistiaid a’u gweithiau. Pa un ai ydych chi eisiau prynu gweithiau celf gan yr artistiaid yn uniongyrchol neu’n chwilfrydig i weld sut maen nhw’n mynd at i greu, dewch da chi i gael golwg!
Cynhelir Helfa Gelf yn siroedd Gwynedd, Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam o ddydd Gwener i ddydd Sul trwy gydol mis Medi 2012
7,8,9 14,15,16 21,22,23 28,29,30 Medi 2012
Oriau Agor 11am -5pm
Mwy o fanylion, mapiau, delweddau, teithiau & newyddion diweddaraf:
www.helfagelf.co.uk
Mae Helfa Gelf yn derbyn nawdd trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.




